Braf yw cael cyhoeddi bod gan Wes Glei wefan!
Ar ôl degawdau o fodolaeth, mae’n hen bryd iddi gael gwefan.
Mae wedi bod yn gyfnod braf cael pori trwy’r archif a chanfod yr holl waith mae Wes Glei wedi’i gynhyrchu dros y degawdau. Ewch draw i ddarganfod fwy am hanes y gwmni ac i weld dyhead Wes Glei i’r dyfodol.
Mae hyn yn cynnig cyfle hefyd i chi rannu eich syniadau. Rydym yn gweithio ar gynyrchiadau masnachol yn ogystal â chymunedol, o gomedi i’r byd addysg. Rydym bob amser yn awyddus i glywed eich syniadau, boed i fenter gymunedol, yn sgript gyflawn neu yn egin syniad. Croeso i chi gysylltu â ni ar post@wesglei.cymru neu ewch draw i’r dudalen Cysylltu i ddanfon neges. Gallwn weithio gyda chi er mwyn datblygu’r syniad a chanfod dulliau a thalent i droi’r syniad yn realiti.
Diolch i gefnogaeth Cronfa Her Arfor, rydym wedi cydweithio gyda Gwe Cambrian er mwyn creu gwefan hygyrch a diolch iddynt am wireddu ein gweledigaeth. Ewch i cael pip arni!
