Ethos

Cwmni a sefydlwyd dros 25 mlynedd yn ôl yw Wes Glei o waith ieuenctid Theatr Felin-fach a Stiwdio Fflach, Aberteifi. Dros y blynyddoedd mae’r fenter gymdeithasol wedi creu ffilmiau a chyfresi drama i blant, rhaglenni dogfen a chydweithio â nifer o dalentau comedi’r gorllewin.

Ein hangerdd yw gweithio gyda storïwyr – wedi hen sefydlu ac sy’n dod i’r amlwg. Rydym yn cefnogi datblygu cenhedlaeth newydd o storïwyr drwy ein hymrwymiadau i fuddsoddi mewn lleisiau yn ein cymunedau lleol.

Rydym bob amser yn awyddus i glywed eich syniadau, boed i fenter gymunedol, yn sgript gyflawn neu yn egin syniad.

Neges gan ein Cadeirydd

Cwmni nid-er-elw sydd wedi ei wreiddio’n gadarn ar ei arfer o ymateb i anghenion
creadigol cymunedau Cymraeg yw WesGlei. Ein hymrwymiad i’r gymuned yw parhau i
amlygu potensial addysgol, creadigol a diwylliannol gan adnabod a chefnogi talentau lleol.