Dydd Sul ddiwethaf lawnsiwyd ymgyrch Nadolig Llwyddo’n Lleol sydd nawr i’w weld ar S4C ac ITV Wales.
Wedi’i gynhyrchu gan Wes Glei, mae’n dilyn stori teulu sydd wedi dychwelyd i ardal Arfor, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Mae hwn yn hysbyseb i Llwyddo’n Lleol 2050 sy’n rhan o Raglen Arfor. Nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw ‘darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid’.
Daw’r hysbyseb ar draws drwy ddefnyddio cân ‘Y Baban Hwn’ gan Caryl Parry Jones a diolch iddi am gael defnydd o’r gân i adrodd y stori hyfryd hon a rhannu’r neges, ‘Eich dyfodol yn Arfor’.
Cewch gyfle i’w gweld drwy fis Rhagfyr ar y teledu a hefyd ar wefannau cymdeithasol Wes Glei.
